WAQ78625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2019

A wnaiff Comisiwn y Cynulliad amlinellu’r broses recriwtio a ddilynodd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu a grëwyd yn ddiweddar, a faint o geisiadau a ddaeth i law?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 25/07/2019

Dilynodd y Comisiwn broses gynhwysfawr i benodi'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, fel a ganlyn:

·         Rhoddodd Comisiwn y Cynulliad gymeradwyaeth i recriwtio i swydd Cyfarwyddwr.

·         Ymgysylltodd y Comisiwn ag Asiantaeth Chwilio Gweithredol i ddod o hyd i ystod eang o ymgeiswyr i'w hystyried ac i gefnogi'r broses ddethol hyd at y rhestr fer.

·         Hysbysebwyd y swydd am gyfnod o dair wythnos a gwnaed ymdrech weithredol i ddod o hyd i ymgeiswyr yn y cyfnod hwnnw hefyd.

·         Ystyriwyd rhestr hir o 28 o ymgeiswyr gan Banel a oedd yn cynnwys y Prif Weithredwr a'r Clerc, yr asiant chwilio gweithredol, ac un o Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn. 

·         O'r rhestr hir, gwahoddwyd 11 o ymgeiswyr i gyfweliad.

·         Roedd y Panel Cyfweld yn cynnwys y Prif Weithredwr a'r Clerc, y Cyfarwyddwr Adnoddau, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a'r asiant chwilio gweithredol.

·         Gwahoddwyd pum ymgeisydd wedyn i asesiad rhestr fer a oedd yn gofyn iddynt:

o   Ddarparu cyflwyniad ac wedyn ateb cwestiynau ar Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd, o flaen grŵp ffocws staff o wasanaethau a graddau ar draws y Comisiwn;

o   Cael cyfweliad ffurfiol gyda Phanel a oedd yn cynnwys y Prif Weithredwr a'r Clerc, y Cyfarwyddwr Adnoddau, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, a'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol dros dro.

o   Cwblhau asesiad iaith Gymraeg i ddangos eu gallu i fodloni gofynion y swydd.

·         Cynhaliwyd trafodaeth bellach gyda'r ddau ymgeisydd terfynol gan y Prif Weithredwr a'r Clerc, sef y rheolwr llinell penodi;

·         Ar ôl hyn, gwnaed cynnig cyflogaeth anffurfiol i'r ymgeisydd llwyddiannus;

·         Cafodd Comisiwn y Cynulliad wybod am y broses o benodi i'r swydd ; a 

·         Gwnaed cynnig penodi ffurfiol.