WAQ78628 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2019

A wnaiff Comisiwn y Cynulliad ddatganiad ynghylch pa feini prawf a ddefnyddiwyd neu a fodlonwyd wrth benderfynu gosod plac i goffáu’r Capten Archibald Dickson ar ystâd y Cynulliad?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 25/07/2019

Y Llywydd, Elin Jones AC ar ran Comisiwn y Cynulliad:

Ceir manylion am y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar yr holl gofebion yn y Polisi Cofebion. Mae'r Polisi hwn hefyd yn disgrifio'r broses i'w dilyn gan y rheini sydd am i'r Comisiwn ystyried gosod cofeb.

Yn achos Capten Dickson, derbyniwyd cynnig a oedd yn bodloni'r meini prawf yn y Polisi. Ystyriodd y Comisiwn y cais a chytunodd i'w gymeradwyo.